Eastwest Interconnector

Rydych chi yma :

eirgrid

Croeso i'r Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin - Gwefan Cymru

Mae'r wefan hon wedi'i datblygu i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau sy'n digwydd gyda'r prosiect yng Ngogledd Cymru.

Mae EirGrid yn datblygu'r cydgysylltydd fydd yn cysylltu rhwydweithiau trawsyrru trydan Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Fe fydd y prosiect yn galluogi llif dwyffordd trydan drwy geblau o dan y môr ac o dan y ddaear, ac fe fydd yn dod â buddion i bobl sy'n byw yng Nghymru ac Iwerddon. Fe fydd y rhain yn cynnwys:

  • Y gallu i gludo 500 megawat o drydan i'r ddau gyfeiriad, sy'n gyfwerth â chyflenwi pwer i thua 300,000 o gartrefi;
  • Gwella sicrwydd cyflenwad yn y dyfodol ar gyfer defnyddwyr trydan yng Nghymru ac Iwerddon;
  • Cynorthwyo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy hwyluso'r gwaith o ddatblygu rhagor o ffynonellau ynni adnewyddadwy;
  • Agor a datblygu marchnad newydd i ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yma yng Nghymru;
  • Cynorthwyo i ostwng cost trydan i gwsmeriaid yng Nghymru ac Iwerddon.

Fe fydd y ceblau 260 cilometr o hyd yn dod i'r lan yn Nhraeth Barkby, Prestatyn. Oddi yno, fe fyddant yn cael eu gosod o dan ddaear, yn dilyn llwybr yr A548 yn bennaf tan y byddant yn cyrraedd Shotton – ble mae EirGrid wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu gorsaf drawsnewid. Dyma ble mae'r trydan yn cael ei addasu fel ei fod yn addas i'w ddefnyddio yn y rhwydwaith trawsyrru lleol.

Wrth gynllunio'r prosiect, mae'r cwmni wedi cysylltu'n helaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir Y Fflint er mwyn sicrhau bod yna cyn lleied â phosibl o darfu ar bobl leol a modurwyr.

Mae EirGrid wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl leol yn cael eu llwyr hysbysu am y prosiect fel y mae'n datblygu. A fyddech cystal â chlicio ar y tab perthnasol i ganfod y wybodaeth ddiweddaraf am waith sy'n digwydd neu sy'n cael ei gynllunio ar gyfer eich ardal.


Gwelwch y llwybr arfaethedig ar gyfer y Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin google map
Animeiddiad Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin

Gwelwch animeiddiad 3 Dimensiwn ynglŷn â sut mae EirGrid yn creu cysylltiad trydan rhwng Iwerddon a Chymru.

animationanimation Gwelwch animeiddiad
Gwelwch y llwybr arfaethedig ar gyfer y Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin
google Gwelwch y llwybr arfaethedig